Lleoliad:Hybrid - Ystafell Bwyllgora 4
Tŷ Hywel a fideogynadledda drwy Zoom Dyddiad: Dydd Mercher, 26 Ebrill 2023
Amser:
09.00 -
10.56
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13310
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Peredur Owen Griffiths AS (Cadeirydd) Peter Fox AS Mike Hedges AS John Griffiths AS (yn lle Rhianon Passmore AS) |
Tystion: |
Julie James AS, Y Gweinidog Newid Hinsawdd Olwen Spiller, Llywodraeth Cymru Roger Herbert, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Leanne Hatcher (Ail Glerc) Mike Lewis (Dirprwy Glerc) Owen Holzinger (Ymchwilydd) |
Cofrestru (09.00-09.15)
Rhag-gyfarfod preifat - Anffurfiol (09:15-09:30)
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau.
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Cyllid.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Rhianon Passmore AS.
1.3 Roedd John Griffiths AS yn bresennol fel dirprwy ar ran Rhianon Passmore AS ar gyfer eitemau 1 i 5.
2 Papur(au) i'w nodi
2.1 Cafodd y papurau eu nodi.
2.1 PTN 1 - Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24: Ymateb Llywodraeth Cymru - 6 Mawrth 2023
2.2 PTN 2 - Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Taliad o Gronfa Wrth Gefn y DU - 9 Mawrth 2023
2.3 PTN 3 - Llythyr gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Diweddariad ar y gymorth dyngarol i Wcráin - 16 Mawrth 2023
2.4 PTN 4 - Llythyr gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Effaith chwyddiant ar y rhaglen addysg ac ysgolion - 20 Mawrth 2023
2.5 PTN 5 - Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cyllid Ychwanegol ar gyfer y GIG - 24 Mawrth 2023
2.6 PTN 6 - Llythyr gan y Prif Weinidog: Cydsyniad Brenhinol Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) - 22 Mawrth 2023
2.7 PTN 7 - Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Bil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru) - 9 Mawrth 2023
2.8 PTN 8 - Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad: Bil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru) - 24 Mawrth 2023
2.9 PTN 9 - Llythyr gan Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol Llywodraeth y DU at Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Bil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru) - 22 Mawrth 2023
2.10PTN 10 - Craffu ar Gyllideb Ddrafft Comisiwn y Senedd 2023-2024 - Ymateb wedi'i ddiweddaru gan Gomisiwn y Senedd - 30 Mawrth 2023
2.11PTN 11 - Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Setliad Llywodraeth Leol - 3 Ebrill 2023
2.12PTN 12 – Llythyr gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol: Memorandwm Esboniadol y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) - 28 Chwefror 2023
2.13PTN 13 - Llythyr gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Y Bil Bwyd (Cymru)
3 Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru)
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth ar oblygiadau ariannol Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) gan Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd; Olwen Spiller, Dirprwy Bennaeth Diogelu'r Amgylchedd; a Roger Herbert, Pennaeth Monitro, Tystiolaeth ac Asesu Ansawdd Aer.
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn a’r cyfarfod ar 24 Mai
4.1 Derbyniwyd y cynnig.
5 Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru): Trafod y dystiolaeth
5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law
6 Adolygiad o'r Datganiad o Egwyddorion
6.1 Trafododd y Pwyllgor y papur a chytunodd ar ei ddull o adolygu'r Datganiad o Egwyddorion.
6.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, a'r Cyrff a Ariennir yn Uniongyrchol, i ofyn am eu barn ar y Datganiad o Egwyddorion cyfredol.